Lleoliad
Dyddiadau
Cysylltu


Fideo Hyrwyddo
Manylion y cwrs
Cyrsiau
Llyfrynnau
Adnoddau
Cymraeg ar y Cyfrifiadur
Y Termiadur
Maes-T


Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg

Cynllun yw hwn wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynyddu nifer yr athrawon, darlithwyr a hyfforddwyr dwyieithog yng Nghymru

Bydd yn datblygu hyder ymarferwyr i wneud y canlynol:

  • defnyddio’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig wrth ddysgu, asesu a gwneud gwaith gweinyddol
  • defnyddio terminoleg pwnc yn effeithiol
  • defnyddio dulliau dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn hyderus

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer:

  • athrawon cynradd ac uwchradd (ac athrawon cyflenwi); darlithwyr Addysg Bellach; hyfforddwyr; darlithwyr Addysg Uwch (cwrs dysgu o bell yn unig)
  • siaradwyr Cymraeg rhugl, naill ai siaradwyr iaith gyntaf neu ddysgwyr

Mae dau fath o gwrs yn cael eu cynnig:

Mae'r cyrsiau'n cael eu cynnal gan:

  • Prifysgol Bangor (Canolfan Bedwyr)
  • Prifysgol Caerdydd (Ysgol y Gymraeg)

Pwy sy’n talu?
Mae’r holl gostau (costau cyflenwi, teithio a chynhaliaeth) yn cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

lluniau

English